Siarad Siop efo Mari a Meilir
By: Mari Beard and Meilir Rhys Williams
Language: cy
Categories: Arts, Performing, Tv, Film, Reviews
Podlediad sgyrsiol arobryn // Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Episodes
58 - Eira, Traitors a'r ffliw
Jan 08, 2026Gan ein bod ni i gyd yn sownd yn ein tai, pa amser gwell i bicio i'r siop i glywed am hanes wythnos gyntaf y flwyddyn newydd, y gyfres newydd o Traitors a llond blwch o gyfaddefiadau jiwsi! Dewch i mewn o'r oerfel - mae'r siop ar agor.
Duration: 01:21:0857 - Blwyddyn Newydd Dda!
Dec 31, 2025Mae 2025 bron ar ben ac mae'n amser i ni hel atgofion a thrafod uchafbwyntiau'r flwyddyn ddiwethaf cyn i ni edrych ymlaen at 2026... Mae hi am fod yn flwyddyn gyffrous i'r Siop, felly dewch i mewn i glywed y newyddion.
Duration: 01:24:3256 - Nadolig Llawen!
Dec 25, 2025Mae'r Nadolig wedi cyrraedd felly dyma bennod arbennig i chi wrando arni drod gyfnod yr Ŵyl i roi hoe fach i chi o'r prysurdeb neu i wrando arno tra'n paratoi eich twrcis a'ch llysiau. Gobeithio y daeth Sion Corn draw! Cofiwch rannu eich hanesion efo ni ar gyfer dadbacio holl hwyl y Nadolig yn y bennod nesaf. Ho ho ho!
Duration: 01:09:0655 - Amour a Mynydd 2, Cabarela a'r super-ffliw
Dec 18, 2025Hir yw pob aros ond o'r diwedd, mae Mari a Meilir wedi llwyddo i agor y siop unwaith eto. Ar ôl trip i Ffrainc, a thaith go brysur Cabarela, mae yna lwyth o bethau i'w trafod, heb sôn am y pigion teledu a'r blwch cyfrinachau. Dyna ddigon o ragflas - i ffwrdd â chi i wrando!
Duration: 01:19:54Cyhoeddiad Gwasanaeth Cyhoeddus!
Dec 04, 2025Yn dilyn anhawsterau technegol (diolch i'r rhyngrwyd a'r glaw trwm) a'r ffaith fod Mari a Meilir yn mynd dramor am sbel... Ni fydd pennod am blwc felly ewch i gadw golwg ar gyfryngau cymdeithasol y ddau nes y daw nhw yn ôl i'r siop.
Duration: 00:04:48Siarad Siop x Llyfrgell Gen
Nov 30, 2025Wel, mae Mari a Meilir wedi cael trip bach i bencadlys diwylliant Cymru sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i daro golwg ar yr arddangosfa newydd yno 'Portread a Phŵer'. Dewch i glywed ni'n defnyddio geiriau fel 'cyfoethogi' ac 'amlddiwylliannol' - da ni'n gallu bod yn posh hefyd wyddoch chi!
* Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i hyrwyddo arddangosfa 'Portread a Phŵer'. #AD
Duration: 00:25:1854 - Wicked: For Good, "Quiet, Piggy" a partïon plu
Nov 27, 2025O'r diwedd, mae pennod olaf Wicked wedi ei rhyddhau ac mae gan Meilir lawer i'w rannu (heb spoilers wrth gwrs)! Rydym yn ffarwelio gyda'e moch daear am y tro olaf yn y bennod hon - a sôn am foch, mae Tr*mp wedi llwyddo i fychanu menyw unwaith yn rhagor! Mae'r blwch unwaith eto yn gorlifo â cheisiadau felly dewch mewn i'r siop - mae'r drysau ar agor.
Duration: 01:39:1553 - Penblwydd RuPaul, parti Kris Jenner ac adverts dolig
Nov 20, 2025Wel mae gwyntoedd oer y gaeaf wedi cyrraedd o'r diwedd felly dewch i mewn i'r siop i glywed hanesion yr wythnos - o antics carped coch Wicked, dawnsathon Emma a Trystan i weiddi ar wylanod. We've got it all. Felly swatiwch a mwynhewch!
Duration: 01:38:28Siarad Siop x Stad
Nov 16, 2025Mae Mari a Meilir wedi gwirioni fod ail gyfres Stad wedi cyrraedd ac ar gael i'w gwylio fel bocset ar S4C Clic/BBC iPlayer neu bob nos Sul am 9pm ar S4C. Pwy well i drafod y gyfres ond gwestai cyntaf y podlediad, sef un o sgriptwyr y gyfres - Lleucu Sion. Dewch i mewn i wrando reit handi!
*Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan S4C i hyrwyddo ail gyfres deledu 'Stad' ar S4C #AD
Duration: 00:36:3552 - Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani
Nov 13, 2025Roedd hi'n wythnos lwyddiannus i Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani yr wythnos ddiwethaf felly mae'n silffoedd ni'n llawn dop yn barod ar eich cyfer chi. Ar ben hynny, mae Mari a Meilir wedi ail-ymweld â'r rhestr enwau drag arbennig gan James, Huw a Neil er mwyn rhoi dôs o lawenydd i ni cyn y penwythnos. Mwynewch!
Duration: 01:36:1951 - Julia Fox, Mariah Carey a Mr Windsor
Nov 06, 2025Mae Calan Gaeaf wedi pasio ac mae Mariah wedi sgrechian ei neges - mae'n amser! Ydych chi'n barod i groesawu ysbryd yr Ŵyl? Pa wisg calan gaeaf oedd eich hoff un chi? Mewn wythnos pan welson ni dywysog yn colli ei goron a gwleidydd yn ymuno â panto, mae Mari a Meilir yn barod i siarad siop. Mewn â chi!
Duration: 01:39:33*BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - Pennod 4&5
Nov 02, 2025Hir yw pob aros ond dyma bennod bonws yn arbennig i chi yn trafod y ddwy bennod ddiweddaraf o Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 4&5. Mwynhewch!
Duration: 01:01:1350 - Lily Allen, Kelvin R&R a Casper the ghost
Oct 30, 2025Yn y bennod sbŵci, dŵci, lŵci yma, mae Mari a Meilir yn tynnu albwm newydd Lily Allen yn ddarnau - gan drafod y manylion, yr alawon a'r holl fanylion mae hi'n ei rannu yn y caneuon. Newyddion trist oedd rhaid rhoi sylw iddo yr wythnos yma oedd marwolaeth Kelvin Walsh ar Rownd a Rownd, cyn i ni agor y blwch llawn o geisiadau a chyfrinachau. Dewch i mewn!
Duration: 01:46:5849 - Thong Kim K, rhech Celia Imrie a jewels y Louvre
Oct 23, 2025Mae hi wedi bod yn wythnos a hanner i bopeth brenhinol - o ladrad y gwemweithiau o'r Louvre i Dywysog Andrew yn ildio ei freintiau brenhinol. O, ie...a ma Kim Kardashian wedi ychwanegu thong blewog i'w chasgliad dillad diweddaraf. Pawb at ei beth a bo, am wn i! A peidiwch a dechre ni off ar Cwîn Celia Imrie. Mewn â chi heb lol.
Duration: 01:34:05*BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 3
Oct 16, 2025Gan fod ein penodau arferol ni'n reit swmpus, dyma wahanu'r sgwrs am Rupaul's Dragrace mewn i bennod fach bonws i chi. Mwynewch!
Duration: 00:21:1248 - Traitors, Diane Keaton a mwy o'r moch daear
Oct 16, 2025Wel, mae'r siop ar agor ac mae'r moch daear yn hoffi eu lle yng ngardd Mari. Hefyd mae'r silffoedd yn llawn o straeon yr wythnos - o farwolaeth yr athrylith o actores, Diane Keaton i ddiddordeb diweddar Mari o gerddwyr Everest...! Allwch chi ddim cwyno bod dim amrywiaeth yma. Mewn a chi de.
Duration: 01:35:3447 - British Podcast Awards a BAFTA Cymru
Oct 09, 2025Fel dywed y teitl - does what is says on tin! Os na welsoch chi'r nifer obnoxious o straeon ar ein cyfryngau cymdeithasol, yna gwrandewch i glywed yr hanes o'r British Podcast Awards a seremoni BAFTA Cymru. Spoiler alert: Llongyfarchiadau ENFAWR i Mari Grug a Sioned Nelson ar ddod yn fuddugol yn y BPA eleni ac i 'Yr Hen Iaith' ar ddod yn ail.
Duration: 01:24:1546 - Poody, Joe Jonas a SFA
Oct 02, 2025Er i ni ddweud nad oedd amser i recordio pennod cyn y Podcast Awards, da ni wedi llwyddo i recordio ein pennod hiraf hyd yn hyn. Wps! Roedd cymaint o stock - o bartïon penblwydd i drip Manceinion i'r holl newydd diwylliant pop heb sôn am y 23 cais yn ein blwch! Buckle in, bois bach a mewn â chi...
Duration: 01:50:4145 - Awards prep, ymprydio a moch daear
Sep 25, 2025Mae Mari a Meilir nol ar y zoom yr wythnos yma and it's business as usual. Mae rhan wleidyddol y podlediad wedi ei bedyddio fel y Silff Sobor, mae moch daear yng ngardd Mari ac mae Kimmel nol wrth ei ddesg. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
Duration: 01:31:0544 - Amour a Mynydd, Owain Glyndwr a polau piniwn
Sep 18, 2025Mae hi di bod yn wythnos drom yn y newyddion ond mae wastad cyfle yn y siop i roi ychydig o ddihangfa. Boed yn sgwrs am snacs anarferol, adolygiadau teledu ac i gwyno am rieni sy'n rhoi guilt trips. Dewch i mewn am seibiant ac i wrando ar y mwydro arferol.
Duration: 01:36:2642 - Rownd a Rownd, Sengylion ac enwau drag Cymraeg
Sep 11, 2025Yr wythnos hon, mae'r siop mor llawn ag erioed o straeon gan gynnwys penblwydd y gyfres 'Rownd a Rownd' yn 30, ein dilynwyr instagram newydd, marwolaeth Giorgi Armani, golygydd newydd Vogue yr UDA a llond blwch o geisiadau a chyfrinachau. Fedrwn ni ddim aros i chi glywed y rhestr o enwau brenhinesau drag Cymraeg gafodd eu cynnig... Mewn â chi!
Duration: 01:37:1142 - Burps, KPop a Cardi B
Sep 04, 2025Mae drysau'r siop bron a byrstio ar agor yr wythnos hon efo hanesion Mari a Meilir, digwyddiadau o amgylch y byd a blwch gorlawn o geisiadau. Mae hi'n bennod hir, felly strap in a mwynhewch y sgwrs.
Duration: 01:43:5041 - Gŵyl Llanuwchllyn, Caerdydd a Catrin Feelings
Aug 28, 2025Ar ôl wythnos brysur o deithio a digwyddiadau, mae Mari a Meilir yn falch o fod nol yn y siop i roi'r byd yn ei le. O Catrin Feelings i Lil Nas X, mae'r cyfryngau diwylliant pop wedi bod reit brysur. Dewch i mewn i wrando.
Duration: 00:44:2140 - Meilir y life guard, eirin tagu a date-io
Aug 21, 2025Mae'r haf bron a gorffen ond mae yna lwyth o straeon i'w rhannu cyn i'r dail ddechrau disgyn. Trip Aberdaron, pyllau padlo epig, hanesion date-io a Meilir yn achub bywyd rhywun. That's right - da chi wedi darllen yn gywir. Dewch i glywed yr hanesion!
Duration: 01:28:2439 - Goss y maes, Karens a Bethans a Steddfod blŵs
Aug 14, 2025Wel, mae'r Eisteddfod wedi cyrraedd a phasio bellach a dydi Meilir heb gael cyfle i ddadbacio ei ddillad cyn bod rhaid dadbacio holl ddigwyddiadau'r wythnos o amgylch y maes a rownd y byd. Pwy oedd y snogio wrth y portaloos? FAINT oedd pris taten drwy'i chroen? Pwy oedd yn Maes B? Dewch i mewn i wrando!
Duration: 01:36:4638 - Eisteddfod! Yn yr Eisteddfod, ieee!
Jul 31, 2025Wrth i Mari a Meilir baratoi i ymweld ag Eisteddfod Wrecsam mewn ychydig ddyddiau, mae 'na lwyth o geisiadau i drafod y ffordd orau i fwynhau a goroesi wythnos yn yr Ŵyl. Mewn â chi i'r siop i ymuno yn y sgwrs, gloi!
Duration: 01:31:0437 - Portaloos, cysgu efo ffrind i ex a delwedd cyrff
Jul 17, 2025Mae hi'n un hir ond mae hi'n un dda... Er nad oes gan Mari a Meilir lawer i'w drafod am eu hwythnosau eu hunain, mae ganddyn nhw DDIGON i'w ddweud wrth ymateb i'r llu o geisiadau a'r cyfaddefiadau sydd wedi cyrraedd y blwch yr wythnos hon. Gwrandewch a gadwch i ni wybod beth yw eich barn chi hefyd!
Duration: 01:43:4436 - Swistir, Jurassic World a papur toilet
Jul 10, 2025"Ry ni yma o hyyyyd!" Mae Cymru nol yn yr Ewros a mae Mari a Meilir nol yn y siop! Gobeithio i chi fwynhau'r wythnos o hoe gawsom ni. Fe lenwoch chi ein blwch ni, yn union fel wnaethom ni ofyn, ac mae yna dipyn o geisiadau i'w trafod felly dewch i mewn i'r siop ar frys.
Duration: 01:27:5035 - Alban Hefin, Pride Cymru a llond blwch o geisiadau!
Jun 26, 2025Wel, da chi di bod yn brysur efo'ch ceisiadau yr wythnos hon. Ond cyn i Mari a Meilir fynd i dyrchu, mae 'na ddigon o amser i drafod digwyddiadau Pride Cymru, hirddydd haf, bingo Llanuwchllyn a dillad Beyoncé! Mewn â chi, mae'r siop ar agor.
Duration: 01:36:1134 - Pisco sours, Cotswolds a'r 'closet'
Jun 19, 2025Mae Mari yn ôl o'i phenwythnos yn y Cotswolds ac mae 'fake tan' Meilir yn datblygu yn eithriadol o gyflym ac oren. Ddim yn gwneud synnwyr? Wel, pwyswch play a gwrandewch te. Mae'r siop ar agor!
Duration: 01:14:4833 - Y Wicked Trailer, y Tony's a canon Amwythig
Jun 12, 2025Yn dilyn newid yn amserlen Mari a Meilir, cafodd y bennod hon ei recordio ben bore...felly does wybod sut siap fydd ar y ddau na'r siop. O'r Tony's i Wicked i Ar Led, mae yna ddigon i ddeffro'r ddau felly i mewn â chi i'r Siop!
Duration: 01:15:3132 - Carafanio, Rhwydwaith Menywod Cymru a Patti LuPone
Jun 05, 2025Mae Meilir wedi ymddangos o'r garafan o'r diwedd ac mae Mari yn ôl o Eisteddfod yr Urdd ac mae yna lond bag freebies a llyfr lloffion o straeon i'w rhannu. Felly dewch yn eich blaen, i mewn i'r siop â chi!
Duration: 01:24:1131 - Blackpool, Eurovision a Pedro Pascal
May 22, 2025Be all ddigwydd pan mae Meilir yn mynd ar benwythnos stag i Blackpool? Sut brofiad gafodd Mari yn blasu danteithion blasus bwyty Gwen yn Machynlleth? Pam bod Osian Huw yn gwneud appearance ar y bennod yma? Wel, pwyswch play ac fe gewch chi wybod.
Duration: 01:19:5830 - Heledd Cynwal, Huw Fyw a Huns Cymru
May 15, 2025Mae'r haul wedi bod yn tywynnu a Mari a Meilir wedi bod yn hel straeon rownd Cymru a thu hwnt ar eich cyfer chi. Da ni'n croeswu'r Pab newydd (gan ofyn iddo newid ei farn ar hawliau LHDTC+ a hawliau menywod), yn sôn am gyfweliad difyr Mari efo Heledd Cynwal a barbeciw bendigedig Meilir. Heb anghofio wrth gwrs, eich cynigion, eich cyfrinachau a'ch cyfaddefiadau blasus. Brysiwch, mae'r siop ar agor!
Duration: 01:13:36Pennod 29 - Y Pab, y pop divas a'r Supreme Court
May 08, 2025Ar ôl gwyliau rhy hir, da ni nol i drafod holl antics y Pasg a phopeth sydd wedi bod yn mynd ymlaen yng Nghymru a thu hwnt! O Celeb Big Brother i siarc Aber i bartenders Llundain. Heb sôn am benderfyniad Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig am ddiffiniad 'menyw'. Mae'r siop ar agor unwaith eto!
Duration: 01:12:23Pennod 28 - Penblwyddi, pasg a pintxos
Apr 17, 2025Mae'r siop ar agor ac mae hi'n bennod lawn dop arall: Celebrity Big Brother, Madonna & Elton John, Joe Lycett yn Bala, Sugababes, Mr G, Gwobrau RTS Cymru, tegannau AI, Coachella, The Last Of Us 2, Katy Perry yn y gofod a llawer, llawer mwy. Rhy gormod? BYTH! Mewn â chi...
Duration: 01:37:35Pennod 27 - Michael Sheen, seidr Sbaen a gossips gwrandawyr
Apr 10, 2025Yn y bennog arbennig o hir yma, rydym yn trafod rhaglen newydd Welsh National Theatre, rhaglenni teledu poblogaidd yr wythnos a faint oed ydi Meilir go iawn? Heb sôn am y blwch cyfrinachau sy'n gor-lifo efo'ch ceisiadau. Mae'ch cyfrinach chi'n saff yn y Siop Siarad.
Duration: 01:42:23Pennod 26 - Chappell Roan, Eira Wen a Rose Datta
Apr 03, 2025Yn y bennod hon, caiff y blwch ceisiadau di-enw ei agor am y tro cyntaf, gan ddatgelu cyfrinachau, tips a chyfaddefiadau cwsmeriaid y Siop Siarad. Hefyd, mae trafodaeth fywiog am sylwadau diweddar Chappell Roan am famau, sgwrs am fethiant eithriadol ail-ddychmygiad newydd Disney o Snow White ac wrth gwrs...FFEINAL Y LLAIS! Bydd eich basgedi yn llawn ar ôl y bennod yma.
Duration: 01:09:57Pennod 25 - Tymor Aries wedi cyrraedd!
Mar 27, 2025Da ni bellach yng nhymor yr hwrdd sy'n golygu fod Mari a Meilir yn teimlo hyd yn oed yn fwy parod eu barn - am yrrwyr býs, ymddygiad mewn theatr a goleuadau nenfwd. Ond wrth gwrs, mae digon o amser i drafod testunau fwy hwyliog fel Y Llais, sengl newydd Aleighcia Scott, group chat Arweinwyr Amddiffyn Cenedlaethol yr Unol Daleithau a hair-line Meilir. Dewch i mewn i glywed mwy!
Duration: 01:11:06Pennod 24 - Wyau pasg, llygod mawr a TikTok marathons
Mar 20, 2025Er gwaetha'r diffyg cwsg, da ni nol efo llond trol i'w drafod - o'n hoff frenhinesau drag Cymraeg, gyrfa newydd Huw Ffash, wyau pasg, Conor Maynard a...llygod mawr! Da ni wedi'ch rhybuddio chi. Mwynhewch!
Duration: 01:11:53Pennod 23 - Onlyfans, custrad creams a lock jaw.
Mar 13, 2025Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod newydd fod, da ni'n rhoi dipyn o sylw i fenywod y bennod yma - o Rebecca Goodwin i Lady Gaga i bennod arbennig Rownd a Rownd o gymeriadau benywaidd yn unig. Mae Y Llais yn cael ein sylw ni eto yr wythnos yma yn ogystal â celeb beefs enwog, Eurovision a'r gusan yna rhwng Danny a Maura... Dewch i mewn i wrando.
Duration: 01:12:00Pennod 22 - Cyfres tri, i ffwrdd â ni!
Mar 06, 2025Rhoddwn glod, y mae'r gwanwyn a Siop Siarad wedi dod! Ar ôl deufis o hoe fach, mae hi mor braf ail-agor y Siop Siarad ac mae yna gymaint i'w drafod hefyd. O gyfres newydd Y Llais, Après Amour a Mynydd, Noson Drag Y Bala, Cân i Gymru, tymor yr awards ac eich cynigion chi wrth gwrs. Estynwch fasged neu droli a dewch i Siarad Siop.
Duration: 01:09:54Pennod 21 - NADOLIG LLAWEN
Dec 16, 2024Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gwsmeriaid annwyl y siop. Mae hi di bod yn flwyddyn anhygoel o drafod, sgwrsio, hel straeon a mwydro a da ni mor ddiolchgar i chi gyd am wrando. Peidiwch a phoeni - nid ffarwel yw hwn, dim ond nodyn o werthfawrogiad wrth gyflwyno pennod olaf y gyfres eleni i chi. Ond mae ganddom ni newyddion cyffrosu i'w rannu gyda chi - felly i mewn i chi i'r siop ar unwaith!
Duration: 00:52:24Pennod 20
Nov 28, 2024Sori, fedrwch chi ddim eistedd fama...Da ni'n dal y gwagle i eiriau 'Defying Gravity'. Yndi, ma Wiza-mania wedi cyrraedd Siarad Siop, ond peidiwch a phoeni os nad ydych chi wedi gwylio'r ffilm eto, does yna ddim spoilers yn y bennod. Mae Mari a Meilir hefyd yn cofio at bawb sydd wedi eu heffeithio gan storm Bert, yn trafod sengl newydd Cabarela, Daf James a BAFTA, Bluey Cymraeg a llawer mwy...! Dewch i mewn i gysgodi a mwynhewch.
Duration: 01:17:25Pennod 18
Nov 21, 2024Waw, am wythnos yr ydyn ni di gael. Dydi Mari a Meilir jesd methu cau'r siop, mae yna ormod i'w drafod! Yr etholiad yn yr UDA, Nicole Scherzinger, mab Gary Barlow, cyfres newydd White Lotus, sioe Theatr Bara Caws, llyfe 'Sgen I'm Syniad', patches moel Mari, brech y ffliw a covid, Wicked, Gladiator 2 a llawer mwy. Steddwch, swatiwch a mwynhewch.
Duration: 01:20:39Pennod 19
Nov 21, 2024Ydyn ni'n cael dweud y gair eto.... MAE DOLIG AR EI FFORDD ac mae Mari a Meilir wedi dechrau edrych ymlaen yn barod. Yn y bennod hon, mae'r ddau yn trafod hoff anrhegion Nadolig, hoff siocled yr Ŵyl, aliens yr UDA, y mass exodus o Twitter gynt, cadarnhau enw swyddogol Parc Cenedlaethol Eryri a'r Wyddfa, clwb nos Heaven yn Llundain, heb anghofio'r eira! Dewch i mewn o'r oerfel a mwynhewch.
Duration: 01:18:04Pennod 18
Nov 14, 2024Waw, am wythnos yr ydyn ni di gael. Dydi Mari a Meilir jesd methu cau'r siop, mae yna ormod i'w drafod! Yr etholiad yn yr UDA, Nicole Scherzinger, mab Gary Barlow, cyfres newydd White Lotus, sioe Theatr Bara Caws, llyfe 'Sgen I'm Syniad', patches moel Mari, brech y ffliw a covid, Wicked, Gladiator 2 a llawer mwy. Steddwch, swatiwch a mwynhewch.
Duration: 01:20:39Pennod 17
Nov 07, 2024Wel, wel - cymaint i'w drafod yr wythnos yma. Yn bennaf, yr etholiad ar draws yr Iwerydd. Heb sôn am ein hoff raglenni teledu, aelod newydd i'r teulu Beard, noson tân gwyllt, Terry's chocolate orange a llawer mwy! Croeso i'r siop siarad.
*Nodyn: Cafodd y bennod hon ei recordio ar noswyl yr etholiad cyn i'r Arlywydd newydd gael ei ddatgan.
Duration: 01:12:35Pennod 16
Oct 31, 2024Calan Gaeaf hapus i chi! Ar ôl wythnos i ffwrdd, mae'r siop yn orlawn o sgyrsiau di-ri - o barti gwylio Rupaul's Dragrace Actavia yn Bala, rhoi sudd pickle mewn Diet Coke, supplements madarch, pwy sy'n rhedeg cyfrif Huns Cymru, giggles yn gwaith a llawer mwy. Dewch i mewn...os meiddiwch chi. Mwahahaha!
T.W. Mae trafodaeth fer am hunan-laddiad yn y bennod hon.
Duration: 01:01:49Pennod 15
Oct 17, 2024Wythnos arall, pennod llawn dop arall. Da ni'n trafod aduniad ysgol Meilir, cyfresi podlediadau da, buddugoliaeth Lost Boys and Fairies yn yr Attitude Awards, y drama ar Strictly, Rupaul's Dragrace a llawer mwy. Mwynewch!
Duration: 01:02:34Pennod 14
Oct 10, 2024Wel, da ni'n "cooking on gas" rwan gyfeillion a dyma bennod orlawn arall o hanesion, argymhellion, cwynion a chynigion. O ddigwyddiadau'r wythnos, rhaglenni newydd S4C, llyfrau newydd, ymweliad Mari â Llanuwchllyn, dychweliad Big Brother a stormydd trofannol. Dyna ddigon o restru, amser gwrando.
Duration: 01:09:05Pennod 13
Oct 04, 2024Gwenwch, mae'n ddydd Gwener! Mae cymaint i'w drafod yr wythnos yma, dyma bennod gynnar i chi. Yn cael sylw'r bennod yma mae sioe Olion gan Gwmni Fran Wen, British Podcast Awards, The Deliverance, Adam Brody yn Nobody Wants This, Beyonce a Jay Z, Dame Maggie Smith, Maggi Noggi ac wrth gwrs, eich cynigion chi, y gwrandawyr. Mwynewch!
Duration: 01:10:06Pennod 12
Sep 30, 2024O, ma hi'n braf bod nol a diolch i chi am ddychwelyd atom ni! Dydi Mari a Meilir yn sicr ddim wedi anghofio siarad siop, fel y clywch chi'r bennod yma. Mae na sgwrs am atgyweirio tai, P.Diddy, Kaos, hoff 'meal deals', Cabarela, dwyn enwau podlediadau (wps), Olivia Attwood's Bad Boyfriends, Agatha All Along, albwm Lady Gaga a llawer, llawer mwy (coeliwch neu beidio). Dewch i mewn, os meiddiwch chi...
Duration: 01:15:14Pennod 11
Sep 23, 2024Da ni nol! Ar ôl haf prysur, mae'r siop ar agor unwaith eto ac mae yna lond silffoedd o hanesion ar eich cyfer chi. O fabi newydd Mari, Meilir yn gwylio Adele a rhyw fedal ddramatig ar y naw... Pam da chi'n aros, dewch i mewn!
Duration: 00:57:18Pennod 10
Jul 01, 2024Dyma "welai di wap" yn hytrach na "hwyl fawr am byth"! Cyn i Mari fynd i gyflawni gwyrth y geni, roedd rhaid recordio un bennod fach arall i'ch cadw chi'n 'stocked up' tan tro nesa. Mae na ddigon yn y sgwrs yma i'ch cadw chi'n ddiddyg am dipyn - Chappell Roan, Glastonbury, Shania Twain, Celine Dion, Arabic Flavours Aber, Pride Caerdydd, triongl cariad Ayame a Yuval, stori gywilyddus arall gan Meilir a mwy...! Dewch i mewn am y tro olaf (am nawr) a llenwch eich basgedi.
Duration: 00:56:52Pennod 9
Jun 19, 2024Shwmai! Peth da ein bod ni wedi aros noson ychwanegol cyn recordio, er mwyn gallu trafod y be ddigwyddodd yn Stadiwm y Principality neithiwr! Yn ogystal â'r newyddion gwych am Catty a Stevie Nicks, House of the Dragon yng Nghymru, Justin Timberlake yn cael ei arrestio, caneuon catchy Sabrina Carpenter a holl gwestiynnau'r gwrandawyr! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.
Duration: 01:19:06Pennod 8
Jun 12, 2024Mae hi'n oer tu allan felly dewch i mewn i gadw'n gynnes. Mae yna ddigon o newyddion tanboeth i'n cadw ni i fynd nes daw'r haf. O gyngherddau Taylor Swift, Troye Sivan a Pink, datblygiadau AI Meta ac Apple i gyfres deledu newydd Sian Eleri. Swatiwch, gwrandewch a mwynhewch!
Duration: 01:14:23Pennod 7
Jun 06, 2024Mae'n sgyrsiau ni yn dod â phawb i'r iard...ac mae na lot i'w drafod yr wythnos hon. Lost Boys and Fairies, mis Pride, Eisteddfod yr Urdd, talfyriadau, dadleuon gwleidyddol, triongl cariad Tik Tok... Ydyn ni 'di anghofio rhywbeth? Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
Duration: 01:04:26Pennod 6
May 29, 2024Wel, am wythnos lawn dop! Digon i lenwi siop o siarad. Yr etholiad cyffredinol, albwm newydd Eden, Eisteddfod yr Urdd, Kelly Rowland yn Cannes, arrestio Nicki Minaj, Gypsy Rose a Kim K, llwyddiant Catrin Feelings a mwy...coeliwch neu beidio!
Duration: 01:13:06Pennod 5
May 22, 2024Llond trol o straeon yr wythnos yma, bois bach! O linach Cymraeg Dolly Parton, rhaghysbyseb Wicked, araith seremoni raddio Harrison Butker, canlyniad yr ymchwiliad i'r sgandal gwaed ac actorion cwiar ar gyfer rhannau cwiar. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
Duration: 01:08:01Pennod 4
May 15, 2024Rhwng drama yr Eurovision, y celebrity block list a'r cyfweliad na rhwng Piers a Fiona, mae Mari a Meilir fel dwy felin bupur yn yr wythnos yma. Heb sôn am rhyw ymddangosiad bach ar y teli bocs nos Lun. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
Duration: 00:50:29Pennod 3
May 08, 2024Cymaint o newyddion i'w drafod yr wythnos yma gan gynnwys y MetGala, cyhoeddiad Y Llais ar S4C, ymgyrch Sara Davies a Coco & Cwtsh i gael Cymru i Eurovision, canlyniad yr etholiadau lleol a llysnafedd malwod... Dewch i mewn! Mae'r siop ar agor.
Duration: 00:56:37Pennod 2
May 01, 2024Da ni'n mynd rownd y byd heno wrth drafod bob dim o Jojo Siwa i Janet, llais yr isymwybod... Mi wnewch chi ddeall pan glywch chi'r sgwrs. Mae'n amser agor y siop!
Duration: 00:48:40Pennod 1
Apr 24, 2024Doedden ni methu sdopio siarad, RuPaul's Dragrace neu beidio...felly dyma gangen o'n podlediad lle NAD OES rhaid i chi fod yn dilyn y gyfres i ymuno yn yr hwyl. Mae Siarad Siop yn ychwanegiad bach i'n cymuned Cwîns lle fyddwn ni'n trafod materion cymdeithasol a hel straeon o wythnos i wythnos (diwylliant pop yn bennaf). Croeso i'r teulu, Cwîns. Mae'r siop nawr ar agor...
Duration: 00:58:30Y Ffeinal...o'r diwedd!
Apr 05, 2024Hir yw pob aros ond dyma ni'r bennod olaf o'r gyfres! Er nad oedd yr enillydd yn sioc, roedd na gymaint i'w fwynhau (a'i feirniadu) yn y bennod. Diolch i chi gyd am wrando, am gefnogi ac am gyfrannu at y sgwrs. Da ni wir yn gwerthfawrogi. Felly am y tro, mwynewch!
Duration: 01:23:57Mwy o gyw iâr amrwd na rhôst
Mar 26, 2024Diolch byth am ddoniau stand-up Hannah a Tia neu mi fyse'r bennod yma wedi bod yn siom enfawr. Ydi tasg stand-up yn deg pan nid Saesneg yw mamiaith hanner y Cwîns? Ddylse'r dair Cwîn fod wedi bod yn y gwaelod? Gewch chi glywed beth oedd gan Mari a Meilir i'w ddweud nawr!
Duration: 01:26:16Rhyddhewch ni...o'r dasg yma
Mar 20, 2024Sawl tasg wael arall sydd rhaid i ni ddioddef? Fyse chi wedi rhoi "seveeen" i'r bennod yma? Er gwaetha'r diffyg cynnwys, dydi hynny ddim wedi rhoi taw ar drafod Mari a Meilir.
Duration: 01:14:46Amser Gothy i gymryd ei bow
Mar 12, 2024Roedd y bennod ddiweddaraf yn llawn tasgau amheus - o 'reading challenge' ddi-fflach i sioe gerdd heb sioe. A wnaeth Gothy aros wythnos yn ormod? Ydi cangen 'UK vs The World' yn cael llai o ofal na changhenau arall y gyfres? Mae gan Mari a Meilir ddigon i'w ddweud ar y mater.
Duration: 00:59:44Pwy sydd am ddweud wrth Jane?
Mar 04, 2024Mae hi'n amser snatchgame unwaith eto! Oedd hi'n un llwyddiannus? Wnaeth Jane McDonald a Sinitta lwyddo i achub y llong rhag suddo? Pa wisg gipiodd y fflag, ac a oedd Ru yn rhy galed ar Gothy? Pwyswch play ac fe gewch chi glywed adolygiad Mari a Meilir a llawer llawer mwy.
Duration: 01:38:04Be ydi dy brand di?
Feb 27, 2024Ar ôl pennod ychydig fwy rhwystredig, mae Mari a Meilir yn ceisio darganfod be yn union oedd y dasg yr wythnos hon. Doedd y Cwîns fawr callach chwaith! Oeddech chi'n cytuno efo dewis y ddwy Cwîn fuddugol? Beth fyddech chi wedi ei ddewis? Cliciwch 'play' i ymuno yn y drafodaeth nawr.
Duration: 01:17:24Fe gei di fynd i'r 'ball'!
Feb 20, 2024Tri chynnig i'r Cwîns! Da ni'n cael ein diffethaf yr wythnos hon efo nid un, nid dau ond tri categori ar y runway. Pwy drödd o froga yn dywysog, pwy frathodd yr afal a phwy gafodd eu 'hapus am byth bythoedd'? Wel, pwyswch play ac mi gewch chi glywed y cyfan gan Mari a Meilir nawr.
Duration: 01:20:34Wnaethoch chi golli ni?
Feb 12, 2024Da ni methu cadw draw ac mi rydyn ni nol yn gorlifo efo brwdfrydedd a chynwrf am ail gyfres RuPaul's Dragrace UK vs The World. Mae hon yn bennod arbennig, ychydig hirach gan ei bod yn ddechrau cyfres a chymaint i'w drafod! O, mae hi'n braf bod nol.
Duration: 01:42:53Y Goron
Dec 11, 2023Mae'r amser wedi dod i goroni brenhines cyfres 5 o RuPaul's Dragrace UK a da ni'n barod amdani... Ychydig yn hwyrach na'r arfer, ond da ni'n mwydro ddigon i'w gwneud hi'n un werth aros amdani. Ar eich marciau, barod...EWCH!
Duration: 01:21:56Rhôst tanboeth y Cwîns
Nov 28, 2023Mae Mari a Meilir yn gytun (am unwaith) mai hon yw pennod orau cyfres 5 hyd yma, ac am bennod yw hi hefyd! Pob cwîn yn llwyddo yn y sialens, llond lle o jôcs da, drama yn y Werkroom a lewks ar y runway yn deilwng o fod yn Fashion Week.
Duration: 00:58:59Mae teulu'n bwysig!
Nov 22, 2023Pwy sydd ddim yn hoff o'r sialens drawsnewid? Troeon cynta mewn sodlau, wigs a cholur a llwyth o straeon twym-galon. Hefyd, mae yna westai arbennig ar y podlediad yr wythnos yma sy'n coroni'r cyfan. Beth sydd ddim i'w hoffi? Wel, dipyn go lew o bethau yn ôl Mari a Meilir.
Duration: 01:17:53Am opera sebon!
Nov 14, 2023Roedd na ddigon o ddrama o fewn y dasg a'r bennod yr wythnos hon i gadw Mari a Meilir yn sgwrsio, chwerthin, dadlau a dadansoddi am dros awr. Mae na drafod ffafriaeth, pyjamas a chamelod..! Be well?
Duration: 01:10:01Ma'r Snatch Game wedi cyrraedd!
Nov 09, 2023Y bennod mae PAWB yn edrych ymlaen amdani. Y dasg sy'n gwthio'r Cwîns i'r eithaf. Ond pa gymeriad oedd eich hoff un chi? Oedd Mrs Doubtfire yn gweithio efo acen o'r 'deep south'? Ddylie Lady C fod wedi gadael y jwngwl? Mari a Meilir sydd wedi bod yn trafod unwaith yn rhagor, gyda digon o caclo bob hyn a hyn.
Duration: 01:13:08Ma' hi tu ôl i ti!
Oct 31, 2023Mae Calan Gaeaf BRON ar ben felly mae hi'n saff i ni ddweud y gair na. Nadolig! A phwy sydd ddim yn hoff o bantomeim dros gyfnod yr Ŵyl? Ond sgwn i beth oedd barn Mari a Meilir o 'Pant-Oh She Better Don't'? Oedden nhw'n gwgu neu'n dathlu wrth weld y gwisgoedd ar y runway?
Duration: 01:14:01Cwymp y Cwîns Buddugol
Oct 23, 2023Yn y bennod fwya dramatig o'r gyfres hyd yma, ar ochr pwy ydych chi? Wrth i'r dair cwîn sydd eisoes wedi ennill ddisgyn i'r gwaelod, mae'r tensiwn yn tasgu rhwng Banksie, Cara Melle a Vicky Vivacious.
Duration: 01:03:45Oes gen ti "ick"?
Oct 18, 2023Yn y bennod yma, mae'r dasg grwp pop yn codi nifer o atgofion i Mari a Meilir. Y platforms, y posters a'r girl power! Ond pa grwp roddod yr "ick" i "yum" y ddau? 'Sgwn i pa cwîn ddeniadol sydd wedi rhoi dipyn o benbleth i Meilir, a beth sy'n achosi i'r ddau ddweud "weithiau ni'n cytuno a weithiau ni ddim" am y tro cyntaf y gyfres yma?
Duration: 01:05:54Gwin..Sori, Cwîns efo Mari a Meilir
Oct 11, 2023Mae'r drincs yn llifo bron cymaint a barn Mari a Meilir. Mae yna hen ddigon i'w ddweud am wisgoedd amrywiol y Cwîns, ffrae Tomara a Cara, y gwestai Yasmin Finney...a sgwrs sydyn am atgyfodiad Big Brother!
Duration: 01:07:42BONWS British Podcast Awards
Oct 05, 2023Pennod fach fer yn sôn am bob dim British Podcast Awards. Mi wnawn ni gau'n cegau am y digwyddiad ar ôl hwn, GADDO!
Duration: 00:20:57Dechrau'r râs i cwîns cyfres 5
Oct 05, 2023Mae Rupaul's Dragrace UK yn ei ôl... sy'n golygu ein bod ni nol! Da ni methu aros i ddod i adnabod y criw newydd yma o CWÎNS.
Duration: 01:04:07Coroni Cwîn Cyfres Pedwar!
Nov 28, 2022Da ni wedi cyrraedd y ffeinal - ac am ffeinal oedd hi hefyd. Gwisgoedd, aduniadau, dagrau, megamix a'r lipsync i guro POB lipsync. Gwisgwch eich gwregys, mae hi'n dipyn o rollercaster!
Duration: 01:21:50Da ni bron dros y linell derfyn!
Nov 21, 2022O ystyried ei bod hi'n bennod gyn-derfynol, doedd na fawr o dân yn yr her gomedi yma yn anffodus. Yng ngeiriau'r anfarwol Trinity the Tuck, "where are the jokes?" Ond roedd na well siap ar y runway wrth i'r cwîns arddangos eu giwsgoedd punk fwyaf pwreus. Ydych chi'n hapus efo'r bedair sydd yn mynd i'r ffeinal?
Duration: 01:06:21Mae Mama Ru yn ei hôl!
Nov 14, 2022Er mor braf oedd gweld Mother Ru yn ôl yn ei sedd, doedd hynny dal ddim yn ddigon i dynnu sylw oddi wrth y sgript ofnadwy ar gyfer y dasg yr wythnos yma. Llanast llwyr! Ydi'r cwîns eraill yn dechrau cornelu Jonbers? Oedd Pixie wir yn crïo? Ydych chi'n cytuno efo canlyniad y lipsync? Oedd y looks yna'n anhygoel? 'Sgwn i os ydych chi'n cytuno efo Mari neu Meilir...?
Duration: 01:06:53Dirgelwch diflaniad Rupaul!
Nov 07, 2022Ble'r aeth y Cwîn RuPaul ei hun? Pwy ddewisodd y gân lipsync yna? A ddyliai Boy George fod ar y panel beirniadu? Rhain yw rhai o'r cwestiynnau mae Mari a Meilir yn YSU i'w trafod yr wythnos yma. Sgwn i os fyddwch chi'n cytuno efo barn Meilir neu Mari am y Cwîn fuddugol yr wythnos yma? Wel, i ffwrdd a chi!
Duration: 01:10:39Calan Gaeaf Cwîns
Oct 31, 2022Gan ei bod hi'n Galan Gaeaf, dyma ddarn ychwanegol gafodd ei dorri o'r bennod ddiwethaf i chi ei fwynhau tra'n cerfio eich pwmpen neu'n paratoi eich hysgyb. Mwahahaha!
Duration: 00:07:19Dyma hi! YYYY Snatchgame!
Oct 29, 2022Ma'n gwallt ni di gwynnu ar ôl y Snatchgame yna! Diolch byth bod Cwîn Elizabeth y Cyntaf yn eu plith nhw i achub y llong. Ydi Pixie rhy hunan-dosturiol? Pwy enillodd y lipstink? Nath Danny gynllwynio i newid ei gymeriad? Be sy di hollti barn Mari a Meilir? Wel, cliciwch play a gwrandewch.
Duration: 01:14:45Pennod orau RPDR UK erioed?
Oct 24, 2022Ma'r bennod yma o Cwîns yn jam packed ac yn fwy amrywiol na paced o Rowntree's Randoms. O Liz Truss i Jane McDonald, o lipsync legendary i ymadawiad ysgytwol ac o sioeau radio i sioeau cerdd. Barod amdani? AWÊ!
Duration: 01:09:26Gwell hwyr na hwyrach!
Oct 19, 2022Moelni, mwng, Michelle Visage, ymddiheuriad i T. H. Parry Williams, Hocus Pocus 2... Ma na dipyn bach o bob dim yn y bennod yma. Gan gynnwys y twerk exit fwyaf eiconig erioed. Mwynhewch!
Duration: 01:10:44Be ddigwyddodd i'r bingo?
Oct 10, 2022Da ni wir yn cael dod i nabod y cwins bellach ac mae ganddo ni ein ffefrynnau hyd yma. Be oeddech chi'n feddwl o'r sialens yma? Oes na ffasiwn beth a high fashion mewn bingo hall? Faint ohono chi sy di ffeindio cariad ar app? Hyn i gyd ar y bennod yma o Cwins!
Duration: 01:06:55Ew, mai'n mynd yn dda yma!
Oct 03, 2022Ma rhaid dweud - ma cwîns y gyfres yma wir wedi'n cyffroi ni a wnaeth pennod 2 ddim siomi. Be sy'n cyfri fel neon? Less is more? Be ma'r beirniaid ma isho? Pwy di Cathy Dennis? Dyma grafu'r wyneb ar rai o gwestiynnau da ni'n eu trafod yn y bennod yma. Oes gennych chi ffefryn hyd yma?
Duration: 01:05:23Haleliwia, da ni nol!
Sep 26, 2022Da ni mor falch fod y gyfres yn ei hôl yn dilyn holl ddigywddiadau'r haf. Da ni'n dechrau cyfres 3 o'n podlediad efo pennod hirach na'r arfer gan fod CYMAINT i'w drafod. Ma hi'n braf bod nol!
Duration: 01:23:10Enillydd DU vs Y Byd yw...
Mar 11, 2022Da ni wedi cyrraedd y ffeinal ac mae'n gyfle i ni adlweyrchu ar gyfres arall o Rupaul's Dragrace. Cytuno neu beidio, mae Ru wedi dewis 'Brenhines y Byd' gyntaf y gyfres ac mae gan Mari a Meilir ddigonedd i'w ddweud am y mater.
Duration: 01:10:06Y bennod gyn-derfynol!
Mar 04, 2022Yn y bennod yma, mae'r cwîns yn cwffio am y cyfle i gael canu cân efo Rupaul...drwy ganu cân efo Rupaul! Pwy fydd y bedair wnaiff oroesi i'r ffeinal?! A be ydi diffiniad 'Darn o Gelf'...?
Duration: 01:30:37Brad lipstick Blu
Feb 25, 2022Rhaid dweud mai hon oedd un o benodau fwyaf dramatig a chofiadwy o Dragrace ers amser maith. Mae ymateb y ffans wedi adlewyrchu hynny ac mae'r dadlau rhwng Mari a Meilir yr un mor danllyd. A wnaeth Blu y peth iawn? Ydych chi'n cytuno hefo'r fformat 'Allstars'?
Duration: 01:32:18Ail gynnig ar bennod 3!
Feb 21, 2022Ar ôl anffawd technegol, da ni o'r diwedd wedi llwyddo i ail-recordio ein adolygiad o bennod 3. Llond llwyfan o Westend Wendys a gwisgoedd smotiog, heb sôn am yr elimination controversial arall na!
Duration: 01:10:20Y categori yw...
Feb 11, 2022Pwy sydd ddim yn hoff o 'ball'? Yn enwedig pan mae na 3 chategori. Wel, dim Baga Chipz yn ôl pob golwg! A be am ddewis dadleuol Ru o'r ddwy cwîn yn y safle gwaelod yr wythnos yma? Cliciwch 'play' ac mi gewch chi wybod yn union be da ni'n feddwl.
Duration: 01:34:52O bedwar ban byd!
Feb 04, 2022Mae'r cwins rhyngwladol wedi cyrraedd a dydi Ru ddim am roi eiliad iddyn nhw orffwys wrth ofyn iddyn nhw gyflwyno eu talentau mewn sioe arbennig. Efallai bod ambell un wedi llwyddo yn well na'i gilydd... Gwrandewch i glywed pwy oedd ffefryn pennod 1 Mari a Meilir.
Duration: 01:24:06